Cyflwyniad

1.        Mae Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn cynrychioli cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Ceir oddeutu 60 o gwmnïau yn y sector, sy’n amrywio o rai bach i rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r diwydiant yn y DU. Maent yn cynhyrchu rhaglenni teledu a chynnwys digidol i rwydweithiau’r darlledwyr cyhoeddus yn y DU gan mwyaf – y BBC, Channel 4, ITV a Channel 5 – yn ogystal â deunydd i sianeli cebl a lloeren a chydgynyrchiadau rhyngwladol. Maent hefyd yn cynhyrchu mwyafrif helaeth rhaglenni gwreiddiol S4C, ynghyd ag amrywiaeth o gynyrchiadau i BBC Radio Cymru a Radio Wales.

2.        Mae TAC yn croesawu penderfyniad Pwyllgor DIGC i gynnal archwiliad i S4C. Mae hon yn flwyddyn hynod bwysig wrth i ni baratoi at yr Adolygiad Annibynnol o S4C, a bydd gwaith y Pwyllgor yn gwneud cyfraniad pwysig at y broses honno.

Lefel ariannu priodol ar gyfer y sianel. Er enghraifft, pwy ddylai ei ddarparu a sut dylid ei gyfrifo? A ddylai fod yn seiliedig ar fformiwla? Sut dylid cynyddu’r ariannu drwy refeniw a godir gan S4C?

3.        Sefydlu strwythur sefydlog, tymor hir ar gyfer lefel ariannu gynaliadwy yw’r mater pwysicaf i’w drafod yn achos S4C. Mi fydd y Pwyllgor yn ymwybodol fod fformiwla ariannu S4C wedi cael ei newid sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn 2010, ac o ganlyniad, mae cyllideb S4C wedi crebachu’n sylweddol.

4.        Roedd penderfyniad Adolygiad Gwariant 2010 i ostwng lefel ariannu S4C mewn gwrthgyferbyniad amlwg â chanfyddiadau ail Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Yn yr adroddiad, sy’n dyddio o fis Ionawr 2009, dywedwyd:

‘Dylid cynnal lefel ariannu cyfredol y llywodraeth ar gyfer darlledwyr cyhoeddus eraill (S4C a BBC Alba) yn y cenhedloedd datganoledig, i sicrhau eu bod yn parhau i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.’[1]

‘Dylid gosod lefelau ariannu uniongyrchol gan y llywodraeth ar seiliau diogel, a dylai’r ffigwr fod yn ddigon uchel i ysgafnhau’r baich ar y cwmnïau i gasglu cyllid a chynnig anogaeth.’[2]

5.        Roedd llythyr y Llywodraeth at yr Arglwydd Hall yn 2015 parthed talu am drwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 oed o goffrau ffi’r drwydded deledu yn datgan: ‘Gellid lleihau canran swm y grant ariannu a roddir gan y BBC i S4C gan ganran sy’n cyfateb i’r gostyngiad a wneir i ariannu’r BBC yn ystod y cyfnod 2018/19–2020/21. Penderfyniad y Llywodraeth fydd sut i ddigolledu’r diffyg.’[3]

6.        Mae’n bwysig ystyried y pwyntiau uchod wrth i ni edrych ymlaen. Yn sgil y gydnabyddiaeth fod diffyg i’w ddigolledu, a bod gofyn i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag e, roedd yn fwy fyth o siom pan benderfynodd y Llywodraeth gwtogi lefel ariannu S4C gan DCMS yn fuan wedi hyn. Ni chafodd y toriadau eu rhewi nes i TAC ac eraill alw am wrthdroi’r polisi.

7.        Mi liniarwyd effeithiau toriadau 2010 i raddau gan ddau ffactor. Yn gyntaf, mi aeth tîm rheoli S4C i’r afael â’r gorchwyl o ostwng lefelau gwariant gweinyddol, a defnyddio’r bartneriaeth â’r BBC i wneud arbedion megis costau darlledu. Yn ail, mi weithiodd y sector gynhyrchu annibynnol yn galed iawn i arbed costau. Ond fel y dywedodd Ofcom yn ei adolygiad diweddaraf o ddarlledu cyhoeddus yn y DU: ‘mae’r galw am staff cynhyrchu a chostau stiwdio yn cynyddu erbyn hyn, ac mae’r arbedion a wneir drwy gynhyrchu rhaglenni â chriwiau llai a nifer is o ddiwrnodau ffilmio wedi cael eu cyflawni i’r graddau eithaf posib, yn ymarferol.’[4]

8.        Hyd yn oed petai lefel gyfredol cyllideb S4C yn gysylltiedig â chwyddiant, ni fyddai hyn yn ddigon i leddfu’r effaith tymor hir ar gynulleidfaoedd o ailddarlledu i’r fath raddau. Mae angen i S4C ddilyn esiampl darlledwyr eraill a buddsoddi yn ei phresenoldeb ar gynifer o lwyfannau â phosibl. Mae gwylio ar-lein S4C, yn enwedig ar iPlayer, wedi cynyddu’n sylweddol o 5.7m yn 2014-15 i 8.4m yn 2015-16[5], ac yn dangos bod gwylwyr ledled y DU yn mwynhau gwylio S4C.

9.        Mae’r ariannu cyhoeddus uniongyrchol a roddir i S4C, ac eithrio’r ffi drwydded, yn bwysig, fel y nodwyd yn adolygiad diweddar yr Arglwydd Puttnam o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus: ‘rhaid ategu ymrwymiad y llywodraeth i raglenni iaith gan ariannu sefydlog, tymor hir. Gan fod [S4C] yn diwallu dibenion treftadaeth genedlaethol, amrywiaeth diwylliannol ac addysg, rydyn ni’n teimlo y dylid ei hariannu – yn rhannnol, o leiaf – gan arian a ddiogelwyd, naill ai gan y llywodraeth ganolog neu gan ffynhonnell arall, ac ni ddylid gadael iddi geisio goroesi ar ba symiau bynnag y gall y BBC eu darparu o’i gyllidebau (sy’n dirywio).’[6]

10.     Ni ddylid ystyried buddsoddiad cyhoeddus ychwanegol fel cost i drethdalwyr. Mae ymchwil yn dangos bod S4C yn mwy na dyblu gwerth ei harian drwy fuddsoddi yn yr economi greadigol leol[7]. Yn amlwg, bydd buddsoddiad ychwanegol yn arwain at fuddion economaidd ychwanegol.

11.     Mae’r pwyllgor yn gofyn a oes angen sefydlu fformiwla? Yn sicr, mae angen gosod seiliau strwythur sefydlog tymor hir ar gyfer ariannu cynaliadwy, er mwyn i S4C fedru buddsoddi mewn rhaglenni teledu o safon a chynnwys digidol sy’n berthnasol ac yn ddeniadol i’w chynulleidfa, gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dylai’r fformiwla ymgorffori ymrwymiad gan ddau brif ariannwr cyfredol S4C – ffi’r drwydded deledu a DCMS – ynghyd ag ymrwymiad di-alw’n-ôl y dylai ariannu o’r fath gydredeg ag adolygiad o strwythur ffi’r drwydded deledu, yn ogystal â pharhau i ganiatáu i S4C greu incwm masnachol ar ei gwedd bresennol.

12.     Mae lefel ariannu S4C wedi disgyn i bwynt y mae TAC yn ystyried nad yw’n cydymffurfio â’r gofyniad statudol o ‘ariannu digonol’. Dylai fod cynnydd diymdroi o 10% i lefel ariannu cyhoeddus S4C (h.y. 10% o gyfanswm cyfraniadau DCMS a ffi’r drwydded deledu, sef oddeutu £8.3m), a dylid cysylltu’r gyllideb â chwyddiant er mwyn iddi aros gyfuwch â’r gyfradd honno.

13.     Bydd cynnal cyfuniad o ffynonellau ariannu’n amlygu annibyniaeth S4C ac yn helpu i’w harbed rhag cael ei dylanwadu’n ormodol gan un ffynhonnell ariannu yn unig. Roedd trosglwyddo mwyafrif cyllideb S4C i gronfa ffi’r drwydded deledu yn cyfateb i doriad o 96% mewn gwariant cyhoeddus, canran uwch o lawer na’r rhan fwyaf o’r toriadau eraill a welwyd yng nghynllun cynildeb y Llywodraeth. Buasai cynyddu grant DCMS i £15m yn dal i fod yn arbediad sylweddol ar wariant DCMS ar S4C cyn 2010 pan oedd dros £100m.

14.     Ar ben hynny, buasem yn dadlau nad yw’n rhesymegol bellach i’r BBC reoli a phenderfynu ar gynnwys y 10 awr statudol o raglenni newyddion ac eraill a ddarlledir ar S4C. Mae TAC wedi cael ar ddeall mai oddeutu £20m y flwyddyn yw costau cynhyrchu’r 10 awr ar hyn o bryd, â newyddon yn costio tua £6m o’r cyfanswm. Hoffai TAC weld y £14m sy’n weddill gael ei drosglwyddo i gyllideb S4C er mwyn iddi gael rheolaeth lwyr dros y cynnwys a’r cynhyrchu.

15.     Ar fater arall, nid yw rhai o ostyngiadau treth mwyaf buddiol y Llywodraeth i’r diwydiannau creadigol wedi bod mor fuddiol i S4C ag i ddarlledwyr cyhoeddus eraill. Oherwydd cyllidebau drama is S4C, nid yw ei chynyrchiadau’n gymwys ar gyfer y credyd treth uchaf, a hoffai TAC weld trothwy is ar gyfer cynyrchiadau ieithoedd lleiafrifol cynhenid y DU.

Diffinio cyfrifoldebau statudol S4C. Ydy ei chyfrifoldebau cyfredol yn briodol i ddarlledwr cyfoes, ac os na, sut dylent newid? Sut dylai’r sianel gyflawni swyddogaeth ddigidol darlledwr cyfoes?

16.     Fel rhan o ddyletswyddau statudol S4C, mae gofyn iddi ‘ddarparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel’, a’r rhan fwyaf ohonynt yn Gymraeg.[8] Mae diffiniad ehangach yn cynyddu rhyddid S4C i godi refeniw ychwanegol mewn rhai meysydd, er enghraifft, drama o safon megis ‘Y Gwyll / Hinterland’, a bydd hyn o fudd masnachol.

17.     Mi ddylai fod yn rhan o swyddogaeth S4C hefyd i bortreadu Cymru, ei diwylliant a’i phobl i weddill y DU a’r tu hwnt. Mae hyn yn llawer mwy ymarferol ar lwyfannau newydd, fel yn achos llwyddiant S4C ar iPlayer, yn ogystal â YouTube, Facebook a Twitter. Dylai bwriad S4C i fod yn weladwy ar y llwyfannau hyn gael ei amlygu yn ei datganiad o fwriad.

18.     Yn adroddiad S4C, Dyfodol Teledu Cymraeg, nodwyd y dylai ‘cael effaith ar y diwydiannau creadigol, ac economïau a chymunedau lleol ledled Cymru a chefnogi twf yn yr iaith Gymraeg‘[9] fod yn un o brif amcanion S4C o 2017 ymlaen. Yn unol â hyn, dylai fod pwyslais amlycach ar gydweithio ag amrywiaeth o gwmnïau annibynnol. Mae swyddogaeth S4C wrth roddi comisiynau cyntaf a darparu cyflenwad cyson o waith yn darparu sicrwydd ariannol mwy sefydlog i sector greadigol teledu. Gall cynhyrchwyr sefydlu cofnod o’u gwaith ag S4C er mwyn ennill comisiwn gan ddarlledwyr eraill ledled y DU. Mae hyn yn caniatáu i aelodau TAC ddatblygu hyfforddiant a sgiliau a gwneud buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a chyfarpar, yn ogystal ag archwilio marchnadoedd newydd a denu buddsoddiad am i mewn.

Strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd y dylid eu sefydlu gan S4C. Er enghraifft, a ddylai cyfrifoldeb dros S4C gael ei ddatganoli i Gymru?

19.     Mae TAC yn cefnogi parhad Awdurdod S4C ar yr amod y gellir profi nad yw’n ymwneud yn ormodol â materion bob dydd, a’i fod yn canolbwyntio ar ddarparu trosolwg craidd o’r gwasanaeth. Gall Awdurdod S4C reoleiddio S4C ar y cyd ag Ofcom, gan sicrhau bod y ffi drwydded yn cael ei gwario’n effeithlon gan S4C heb unrhyw fewnbwn gan y BBC. Efallai mai’r Awdurdod ddylai ‘reoleiddio’ S4C, felly.

20.     Mi ddylai fod cyfle o fewn y weithdrefn reoleiddio i gynrychiolwyr swyddogol y sector annibynnol leisio adborth ar newidiadau i strategaeth gomisiynu cyn iddynt gael eu cadarnhau’n derfynol, er mwyn osgoi unrhyw bolisïau a allai niweidio’r sector, er yn anfwriadol.

21.     Rydyn ni’n deall bod DCMS, y BBC ac S4C wrthi’n trafod trefniant ‘ôl-Ymddiriedolaeth y BBC’, a ddisgrifiwyd fel isod gan Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, i Bwyllgor DIGC y llynedd: “Mi fydd y berthynas yn un fwy cytundebol ei hanfod … yr awgrym yw y bydd S4C yn gorfod cyfiawnhau’r gwariant a geir gan y BBC, a chyfrif am y ffaith fod yr arian wedi’i wario yn unol â’r diben gwreiddiol.”[10]

22.     Mae hyn yn destun pryder, oherwydd er bod Ymddiriedolaeth y BBC yn gorff ‘hyd braich’ o leiaf, mi fuasai’r ‘cytundeb’ newydd yn cael ei sefydlu rhwng Awdurdod S4C a Bwrdd y BBC ei hun. Gallai’r sefyllfa hon esgor ar wrthdaro sylweddol mewn buddiannau. Nid yw’n briodol fod bwrdd rheoleiddio un darlledwr yn medru dylanwadu ar weithdrefnau darlledwr arall.

23.     Er mwyn diogelu annibyniaeth S4C, dylai’r gyfran o ffi’r drwydded deledu sy’n mynd at S4C fod yn gyfan gwbl ar wahân, ac ni ddylid ei arolygu mewn unrhyw ffordd gan y BBC. Buasai TAC yn dymuno gweld y gyllideb berthnasol o gronfa ffi’r drwydded yn cael ei throsglwyddo’n uniongyrchol i Awdurdod S4C (neu’r ‘Rheoleiddiwr’), sef y corff y mae’r Llywodraeth yn ymddiried ynddo i sicrhau bod S4C yn gwario’r arian yn y ffordd briodol. Yn ogystal, dylai incwm S4C o ffi’r drwydded deledu gael ei ddiogelu a’i warchod rhag ymrwymiadau ychwanegol a ddaw i ran y BBC, megis yn achos diweddar gorfod derbyn mai nhw fyddai’n talu costau darparu trwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 oed.

24.     Mae TAC yn argymell gofal yn achos datganoli S4C i Gymru. Yn rhinwedd ei statws fel ased diwylliannol, gwerthfawr, dylai’r iaith Gymraeg gael ei chefnogi gan Lywodraeth y DU. O gydweithio â holl ddarlledwyr cyhoeddus y DU, mae aelodau TAC yn medru tystio i bwysigrwydd S4C o fewn cyd-destun ehangach y sector.

25.     Mi fuasai’n anffodus petai S4C yn cael ei gyrru i’r cyrion ac yn troi’n wasanaeth ymylol nad sydd i’w gweld yn bwysig y tu hwnt i Gymru, oherwydd y gwir amdani yw bod dylanwad ei rhaglenni’n ehangach na hynny, ac felly hefyd y sector gynhyrchu greadigol mae’n cydweithio â hi. Nid yw ariannu S4C yn fater y dylid ei ystyried gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghyd â blaenoriaethu gwariant ar yr economi, iechyd, addysg, yr amgylchfyd a materion datganoledig eraill.

Beth fyddai hanfod perthynas S4C a’r BBC?

26.     Nid oes amheuaeth fod buddiannau’n deillio o’r bartneriaeth rhwng S4C a’r BBC, megis rhannu gwasanaethau darlledu. Mae comisiynu ar y cyd neu rannu costau mewn rhaglenni gwerth uchel megis drama, digwyddiadau a hawliau diwylliannol a chwaraeon, yn fuddiol i’r darlledwyr a’r cynhyrchwyr sy’n derbyn y comisiwn. Mae TAC yn sicrhau bod S4C yn cydymffurfio â’r Telerau Masnach yn unol â’r Ddeddf Cyfathrebiadau pan mae’n trafod comisiynau o’r fath â’r sector annibynnol.

27.     Yn sgil newidiadau i Siarter y BBC, sy’n golygu cynyddu nifer y rhaglenni sy’n agored i gystadleuaeth, gall cydweithio â mwy o gynhyrchwyr y sector annibynnol yng Nghymru wella amrywiaeth llais y BBC, yn ogystal â chyflenwi’r gofyniad sydd yn y Siarter i’r BBC gydweithio â’r economi greadigol.[11]

28.     Fel y nodwyd eisoes, fodd bynnag, ni ddylai’r berthynas rhwng S4C a’r BBC ymwneud o gwbl â’r gyfran o ffi’r drwydded deledu mae S4C yn ei derbyn fel taliad rhannol o ariannu gwasanaeth S4C.

Amlygrwydd S4C: materion megis tynnu sylw at S4C ar y teclyn rhaglenni electronig (EPG) a setiau teledu clyfar.

29.     Mae amlygrwydd yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus di-dâl ar yr EPG a setiau teledu clyfar yn parhau i fod yn hollbwysig. Mae pob darlledwr cyhoeddus yn ymelwa o gefnogaeth gyhoeddus mewn rhyw ffordd, boed hynny ar ffurf gofod ar y sbectrwm neu arian cyhoeddus. Oherwydd hyn, dylai fod yn hawdd i’r cyhoedd ddod o hyd iddynt. Mae ymchwil wedi dangos bod cysylltiad uniongyrchol rhwng lleoliad sianel ar yr EPG ac arferion gwylio’r sianeli dan sylw. Gan na all S4C wario ar farchnata ar yr un raddfa â rhai o’r darlledwyr eraill, mae’n hanfodol iddi gael ei hamlygu mewn ffyrdd eraill.

30.     Rydyn ni’n cyd-weld ag argymhelliad diweddar y Pwyllgor y dylai ‘Llywodraeth y DU ac Ofcom ystyried diwygio Cod Ymarfer Ofcom i ddarparwyr EPG mewn modd sy’n sicrhau bod S4C yn derbyn gwell amlygrwydd yng Nghymru ar Declynnau Rhaglenni Trydanol a setiau teledu clyfar.’[12]

31.     Mae darpariaeth gwasanaeth Virgin Media yng Nghymru’n destun pryder penodol. Mae BBC1 Wales ar sianel 101, BBC2 Wales ar sianel 102, ITV Cymru Wales ar sianel 103 a Channel 4 ar sianel 104. Mae S4C wedi ei hynysu’n llwyr ar sianel 166, ac mae’n gwbl anweledig i bobl sy’n sboncio drwy sianeli’r darlledwyr cyhoeddus. O ystyried twf sylweddol ac arferion marchnata ymosodol Virgin Media mewn cartrefi cebl, mae TAC yn galw ar y Pwyllgor i annog Ofcom i ymdrin â’r mater hwn ar frys.

32.     Er bod ffigyrau gwylio ar-lein yn cynyddu, mae’n hanfodol i S4C gynnal ei phresenoldeb ar rwydwaith daearol, di-dâl. Fel y dywedodd Ian Jones wrth y Pwyllgor Materion Cymreig: “petai S4C yn troi at ddarlledu’n gyfan gwbl ar-lein heddiw, mi fuasem yn colli 60% i 65% o’n cynulleidfa ar unwaith.”[13] Mae gwylio teledu traddodiadol yn dal i fod yn gyffredin, â 91% o boblogaeth y DU yn gwylio teledu byw bob wythnos.[14] Mae demograffig siaradwyr Cymraeg yn cynnwys nifer helaeth o bobl hŷn nad yw’n arfer ganddynt wylio’r teledu ar-lein. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â sianel megis BBC3, pan ellid dadlau bod ei chynulleidfa iau yn un fwy naturiol i’w throsglwyddo i gynulleidfa ar-lein yn unig.



[1] Ail Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus: Gwylwyr yn Gyntaf. Ofcom, Ionawr 2009, t.11, para 1.87

[2] Ail Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus: Gwylwyr yn Gyntaf. Ofcom, Ionawr 2009, t.51, para 5.47

[3] Llythyr am drefniadau gostyngiad pris y drwydded deledu i bobl dros 75 oed o 2017/18 ymlaen. Trysorlys EM a DCMS at yr Arglwydd Hall, 3 Gorffennaf 2015

[4] Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd: Trydydd Adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Ofcom, Gorffennaf 2015, t.9 para 3.15

[5] Adroddiad Blynyddol 2015-16. S4C, 2016, t.4

[6] A Future for Public Service Television. Goldsmiths College/University of London, Mehefin 2016, t.126

[7] Adroddiad Blynyddol 2015-16. S4C, 2016, t.4

[8] Deddf Cyfathrebiadau 2003. Llywodraeth EM, 2003, adran 204 (2)

[9] Dyfodol Teledu Cymraeg. S4C, 2014, t.32

[10] Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Pwyllgor Diwylliant, yr iaith Gymraeg a Chyfathrebu, Chwefror 2017, t.23 (63)

[11] Mae’r disgrifiad o bedwerydd diben cyhoeddus y BBC yn ei siarter newydd yn cynnwys y datganiad hwn: ‘Drwy gomisiynu a chyflenwi allbwn y dylai’r BBC fuddsoddi yn economi greadigol pob un o’r cenhedloedd a chyfrannu at eu datblygiad.’ Cyf: BBC Royal Charter. HM Government, Rhagfyr 2016, t.5

[12] Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Pwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu, Chwefror 2017, t.25

[13] Tystiolaeth lafar: Darlledu yng Nghymru, cyfarfod dilynol: ariannu S4C – 30 Ion 2017. Pwyllgor Materion Cymreig, HC 981, cyhoeddwyd Chwefror 2017, t.8, C19

[14] Adroddiadau’r Farchnad Gyfathrebu 2016. Ofcom, Awst 2016, t.16